Ynghylch y teclyn gwirio symudol a band eang hwn
Mae'r teclyn gwirio hwn yn dangos argaeledd a pherfformiad y ddarpariaeth band eang a symudol a ragfynegir ar gyfer eich cyfeiriad chi.
Mae'r teclyn gwirio ar gael yn Saesneg hefyd.
Gwybodaeth gyffredinol
Dydy fy nghod post neu gyfeiriad fy eiddo ddim yn ymddangos ar y gwiriwr, pam?
Mae Ofcom yn defnyddio data o’r Arolwg Ordnans i ddarparu’r set ddata sylfaenol a ddefnyddir i asesu darpariaeth symudol a band eang ar gyfer eiddo yn y DU. Mae’r data hwn yn cael ei ddiweddaru yn ein gwiriwr dair gwaith y flwyddyn, felly efallai na fydd rhai eiddo’n cael eu canfod o leiaf nes bydd y diweddariadau hyn wedi cael eu rhoi ar waith.
Sut alla i gael gwybod am gyfnodau segur a allai effeithio ar fy ngwasanaethau?
Ewch i wefan eich darparwr i weld diweddariadau statws am unrhyw gyfnodau segur a allai fod yn effeithio ar eich gwasanaethau.
Teclyn gwirio argaeledd band eang: cwestiynau cyffredin
Beth yw band eang safonol?
Mae gwasanaethau band eang safonol yn gallu cyflawni cyflymderau llwytho i lawr hyd at 30 Mdid yr eiliad.
Beth yw band eang gwibgyswllt?
Rhwydweithiau gwibgyswllt yw'r rhai sy'n gweithredu'n uwch na 300 Mdid yr eiliad. Caiff y cyflymderau hyn eu darparu fel arfer ar rwydwaith cebl neu drwy gysylltiad ffeibr i'r cartref.
Beth yw Mynediad Di-wifr Sefydlog?
Mynediad Di-wifr Sefydlog (FWA) yw darparu gwasanaeth band eang dros rwydwaith di-wifr, naill ai ar rwydwaith symudol neu rwydwaith di-wifr penodedig. Mae gwybodaeth am ddarpariaeth yn seiliedig ar offer modelu rhagfynegol y gweithredwyr a gall rhwystrau lleol olygu efallai na fydd modd i rai safleoedd dderbyn gwasanaeth er gwaetha'r ffaith y rhagfynegir darpariaeth ar eu cyfer.
Beth yw’r rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol (USO) ar gyfer band eang?
Os na allwch chi gael cyflymder lawrlwytho o 10 Mdid yr eiliad a chyflymder llwytho i fyny o 1 Mbit yr awr, gallwch ofyn am gysylltiad wedi'i uwchraddio yn amodol ar feini prawf cymhwyster. Gallwch wneud y cais hwn i BT, neu i KCOM os ydych yn byw yn ardal Hull. Nid oes angen i chi fod yn gwsmer BT neu KCOM i wneud cais.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Ofcom.
Does dim gwybodaeth ar gyfer fy nghod post neu gyfeiriad, beth yw’r rheswm dros hynny?
Darperir y rhagfynegiadau cyflymder a ddefnyddir yn y teclyn gwirio gan rwydweithiau band eang blaenllaw y DU. Os na ddangosir rhagfynegiadau ar gyfer eich cyfeiriad, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu nad yw band eang ar gael ac rydym yn awgrymu i chi wirio argaeledd ar wefannau'r rhwydweithiau.
Nid yw fy rhwydwaith lleol wedi’i gynnwys yn y teclyn gwirio, beth yw’r rheswm dros hynny?
Er ein bod yn ceisio dod o hyd i wybodaeth am eu darpariaeth gan bob darparwr rhwydwaith band eang sefydlog yn y DU, mae’n bosib y bydd rhai darparwyr rhwydwaith nad ydym yn cywain gwybodaeth ganddynt ar hyn o bryd. Os hoffech i'ch rhwydwaith gael ei gynnwys yn ein teclyn gwirio, gyrrwch e-bost atom yn connectednationsreport@ofcom.org.uk.
Pam mae’r cyflymder yr wyf yn ei dderbyn yn arafach na’r cyflymder sydd wedi’i ddarogan yn y teclyn gwirio?
Mae nifer o ffactorau sy'n effeithio ar y cyflymder y gellir ei dderbyn ar ddyfais, er enghraifft perfformiad y rhwydwaith o fewn adeilad a nifer y dyfeisiau sydd hefyd yn defnyddio gwasanaethau ar-lein ar yr un pryd.
Gall hyd, oedran a chyflwr y llinell ei hun hefyd effeithio ar berfformiad y llinell. Yn yr achos hwn, efallai y bydd eich darparwr yn gallu mynd i'r afael â’r mater.
Sut ydw i'n cael gwybod pa ddarparwyr sydd ar gael yn fy nghyfeiriad?
Mae'r wybodaeth ar gyfer y teclyn gwirio darpariaeth hwn yn cael ei chywain gan ddarparwyr rhwydweithiau band eang. Mae rhai, ond nid pob un, yn gwerthu gwasanaethau'n uniongyrchol i gwsmeriaid. Pan nad yw'r darparwr rhwydwaith yn gwerthu gwasanaethau'n uniongyrchol i gwsmeriaid, dylai fod modd i chi ddod o hyd i wybodaeth am ailwerthwyr y rhwydwaith hwnnw trwy'r linc i wefan y darparwr rhwydwaith sydd wedi'i chynnwys yn ein teclyn gwirio ar y we.
Mae fy narparwr gwasanaeth yn dweud wrthyf nad yw gwasanaeth ar gael ond mae eich gwiriwr yn dweud ei fod ar gael. Pam mae hynny?
Mae'n bosib na fydd gwasanaethau ar gael mewn lleoliadau penodol ac/neu ar amserau penodol am resymau gweithredol. Er enghraifft, i gael mynediad i eiddo i ddarparu llinell newydd mae'n bosib y bydd angen caniatâd gan landlord, neu efallai bod angen cynnal a chadw neu uwchraddio cyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer darparu gwasanaeth. Siaradwch â'ch darparwr i gael mwy o fanylion ac amcangyfrif o'r amserlen ar gyfer darparu'r llinell.
Rwy'n gwybod bod gwasanaeth band eang sefydlog yn bodoli yn fy nghyfeiriad ond nid yw eich gwiriwr yn cydnabod hynny. Pam ddim?
Os nad yw eich darparwr wedi'i restru ar y teclyn gwirio hwn, cysylltwch â'ch darparwr a rhowch wybod i ni hefyd trwy'r linc adborth. Rydym yn cywain gwybodaeth am ddarpariaeth rhwydweithiau gan nifer cynyddol o ddarparwyr seilwaith, ond mae'n bosib y bydd rhai - yn enwedig rhwydweithiau bach - nad ydynt wedi'u cynnwys eto. Rydym yn annog darparwyr rhwydwaith i gysylltu â ni er mwyn i ni gywain a defnyddio data ar argaeledd eu rhwydwaith. Mae'n bosib hefyd y bydd oedi rhwng darparwr yn gosod rhwydweithiau mewn ardal a darparu'r gwasanaeth hwnnw i ddefnyddwyr. Cadwch lygad allan am ddeunyddiau marchnata sy'n eich hysbysu pryd y bydd gwasanaethau newydd ar gael i chi uwchraddio iddynt.
Mae'r gwiriwr yn nodi bod gwasanaeth ar gael ond nid yw pob gweithredwr wedi'i restru. Pam mae hynny?
Nid ydym ond yn darparu enwau darparwyr rhwydweithiau sydd wedi rhoi caniatâd pendant i ni gynnwys eu henwau a manylion gwe ar ein teclyn gwirio. Mae'n bosib y bydd sefyllfaoedd lle mae gennym ddata darpariaeth gan y gweithredwyr ond nid ydym wedi derbyn y caniatâd angenrheidiol eto i restru enw'r gweithredwr.
Cliciais ar linc i weithredwr, ond roedd y linc wedi'i thorri neu fe aeth â mi at wefan na allai fy helpu i nodi a chysylltu â darparwyr band eang. Pam?
Fel a nodir yn ein telerau defnydd, nid yw Ofcom yn cymryd cyfrifoldeb dros gynnwys (neu fodolaeth) gwefannau trydydd parti. Nod y linciau hyn yw helpu chi i ddod o hyd i ddarparwyr gwasanaeth all gynnig band eang i'ch eiddo, ond gofynnir i chi ddefnyddio'r linc adborth i roi gwybod i ni os nad dyna'r achos. Byddwn yn ceisio gweithio gyda darparwyr i daclo'r broblem. Fodd bynnag, mae'n bosib bod rhesymau sy'n atal linciau rhag gweithio y maent y tu hwnt i reolaeth Ofcom.