Argaeledd darpariaeth symudol
Mae defnydd o’r teclyn gwirio hwn yn amodol i Delerau Defnydd Ofcom
Rhowch eich cod post isod i weld yr argaeledd symudol a ragwelir yn eich ardal, neu cliciwch y botwm i alluogi'r wefan i ddod o hyd i'ch lleoliad.
Rhagfynegiadau yw'r canlyniadau hyn ac nid gwarant. Gall y gwir wasanaethau sydd ar gael fod yn wahanol i’r canlyniadau. Mwy o wybodaeth
Cael gwybod beth mae’r canlyniadau hyn yn ei olygu
Mae “Llais” yn dangos y ddarpariaeth a ddisgwylir ar gyfer gwneud galwadau ffôn, tra bod "Data" yn dangos argaeledd gwasanaeth rhyngrwyd symudol, yn cynnwys gwasanaethau 3G. Mae "Data Gwell" yn cynnwys technoleg 4G. Mae Data 4G fel arfer yn gynt na chyflymderau data 3G. Mae cyflymderau gwasanaeth data yn cefnogi pori'r we, mae cyflymderau gwasanaeth Data Gwell yn cefnogi rhaglenni amlgyfrwng.
- Mae’r eiconau argaeledd yn golygu'r canlynol:
- Tic gwyrdd = Rydych chi’n debyg o gael darpariaeth dda
- Triongl oren = Efallai eich bod yn cael rhai problemau
- Croes goch = Ddylech chi ddim disgwyl cael signal
Mae'r eiconiau argaeledd ar gyfer Llais yn golygu:
- Tic gwyrdd = Rydych chi’n debyg o gael darpariaeth dda
- Croes goch = Ddylech chi ddim disgwyl cael signal
Os dydy eich darparwr gwasanaeth cyfathrebu symudol chi ddim yn y rhestr, bydd yn defnyddio un o’r rhwydweithiau hyn drwy gytundeb cyfanwerthu. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- Mae Virgin Mobile, Asda Mobile a BT Mobile yn defnyddio rhwydwaith EE.
- Mae Tesco Mobile a Lycamobile yn defnyddio rhwydwaith O2.
- Mae Lebara Mobile a TalkTalk Mobile yn defnyddio rhwydwaith Vodafone.
Mae’r map hwn yn dangos argaeledd darpariaeth symudol yn eich ardal chi. Dewiswch eich rhwydwaith i weld yr argaeledd gan eich darparwr.